Y gwasanaethau brys ar safle'r ymosodiad ym Mharis
Mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn chwilio am dri dyn arfog yn dilyn ymosodiad ar swyddfa cylchgrawn Charlie Hebdo ym Mharis lle bu farw 12 o bobol.

Cafodd golygydd y cylchgrawn ac o leiaf tri o’r dylunwyr cartŵn eu saethu’n farw gan y dynion, ynghyd a dau blismon. Mae adroddiadau yn dweud bod o leiaf pump o bobol eraill wedi’u hanafu’n ddifrifol.

Dywedodd gweinidog y llywodraeth, Bernard Cazeneuve fod y wlad ar ei gwyliadwriaeth ac mae mesurau diogelwch llym mewn lle mewn rhai o fannau crefyddol, siopau, swyddfeydd y wasg, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r Arlywydd Francois Hollande wedi disgrifio’r digwyddiad fel “ymosodiad brawychol heb os nac oni bai” ac wedi dweud bod y wlad “mewn sioc.”

Pwy sy’n gyfrifol?

Mae’r mudiad eithafol IS wedi bygwth ymosod ar Ffrainc sawl gwaith ond nid oes unrhyw un  wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad  hyd yn hyn.

Yn ôl adroddiadau roedd rhai Mwslimiaid wedi’u cythruddo ar ôl i’r cylchgrawn gyhoeddi lluniau dychanol o’r proffwyd Islamaidd Mohammed.

Roedd Charlie Hebdo wedi trydar cartŵn o’r proffwyd Mohammed funudau cyn yr ymosodiad, gyda neges yn dymuno ‘gwyliau hapus’ i’w ddarllenwyr.

Fe wnaeth y dynion arfog, gafodd eu clywed yn datgan “Allahu Akbar” (Mae Duw yn wych) yn dilyn y digwyddiad, yrru i ffwrdd mewn car du ar ôl yr ymosodiad.