Mae dyn yn Florida wedi ei gyhuddo o lofruddio ei fam wedi i’w chorff gael ei ddarganfod heb ben y tu allan i’w cartref nos Fercher.

Yn ôl Swyddfa’r Sheriff yn Sir Pinellas, fe ffoniodd Mario Gomez y gwasanaethau brys neithiwr a rhoi gwybod bod ei frawd Christian wedi lladd eu mam a thorri ei phen i ffwrdd.

Daeth dirprwyon y Sheriff lleol o hyd i gorff Maria Suarez-Cassagne y tu allan i’w chartref, ger biniau ysbwriel.

Fe gafodd Christian Gomez ei arestio ar ôl i’r heddlu dderbyn galwad gan aelod o’r cyhoedd yn rhoi gwybod bod unigolyn amheus yn reidio beicio yn yr ardal.

Yn ôl swyddfa’r Sheriff, mae Gomez wedi cyffesu a’r heddlu wedi darganfod yr arf gafodd ei ddefnyddio i lofruddio – bwyell.