Mae heddlu ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau yn chwilio am ddyn a ymosododd ar heddwas gyda bwyell fawr.

Roedd yr heddwas yn eistedd yn ei gar yn Washington DC toc wedi 3 o’r gloch y bore (amser lleol) pan ddaeth dyn ato yn chwifio bwyell, gan falu ffenestr y cerbyd ar ochr y gyrrwr.

Fe lwyddodd y swyddog i ddod allan o’r car, ac fe aeth hi’n ymrafael wedyn rhyngddo a’r ymosodwr. Fe lwyddodd y dyn gyda’r fwyell i ddianc o’r fan wedi iddo anafu’r heddwas.