Mae deg o bobol wedi’u cael yn euog mewn achos o dân mewn ysgol yn India yn 2004. Fe gafodd 94 o blant eu lladd yn y digwyddiad.

Mae perchennog yr ysgol gynradd, ei wraig, y brifathrawes a’r trefnydd bwyd ymysg y rheiny a fydd yn cael eu dedfrydu’n ddiweddarach am roi bywydau mewn peryg ac achosi marwolaeth.

Mae 11 o ddiffynyddion eraill wedi’u cael yn ddieuog gan y llys ardal yn nhalaith Tamil Nadu.

Fe ddaeth yr achos hwn â nifer o bryderon i’r amlwg, yn arbennig felly safon a diffyg adnoddau mewn ysgolion preifat yn India. Mae nifer o’r ysgolion hyn yn gweithredu heb larymau tân, a heb systemau diffodd tân, a dim allanfeydd priodol ar gyfer adegau o argyfwng.

Mae un o’r cyn-ddisgyblion, a oroesodd y tân, wedi beio “agwedd ddi-hid yr athrawon” am y marwolaethau yn Kumbakonam, tre’ 200 milltir i’r de-orllewin o brifddinas talaith Tamil Nadu, Chennai.

Ni chafodd yr un athro ei ladd yn y tân.