Brenin Felipe VI
Mae Sbaen wedi coroni brenin newydd mewn seremoni ger Madrid heddiw.

Fe wnaeth Felipe VI, sy’n 46 oed, dyngu llw yn Frenin Sbaen ym Mhalas Zarzuela ger Madrid y bore ma, gan olynu ei dad, Juan Carlos, sydd wedi ildio’r frenhiniaeth.

Yn ôl adroddiadau, roedd y seremoni ym Mhalas Zarzuela yn eithaf tawel o’i gymharu â seremonïau yn y gorffennol – doedd dim gwledd, champagne na chynulleidfa fawr o aelodau o deuluoedd brenhinol eraill a gwleidyddion.