Silvio Berlusconi
Fe fydd yn rhaid i gyn brif weinidog Yr Eidal, Silvio Berlusconi, dreulio o leiaf bedair awr yr wythnos yn helpu’r henoed wedi iddo’i gael yn euog am dwyll treth.

Dyma’r ddedfryd gyntaf i gael ei gadarnhau yn ei erbyn.

Mae’r ddedfryd yn cyfyngu gallu Silvio Berlusconi i gymryd rhan yn yr ymgyrch etholiadol Ewropeaidd.

Ni fydd Berlusconi, 77 oed, yn cael sefyll, ond mae’n parhau i fod yn rym gwleidyddol fel arweinydd plaid Forza Italia.

Noson cyn cyhoeddiad y llys, fe wnaeth Berlusconi gyfarfod a  Phrif Weinidog y wlad, Matteo Renzi. Mae Renzi angen cefnogaeth Berlusconi ar ddiwygiadau cyfansoddiadol i ddiddymu’r Senedd.

Penderfynodd y llys bod yn rhaid i Berlusconi dreulio’r rhan fwyaf o’i amser yn rhanbarth Lombard, ble mae’n byw, ond rhoddwyd caniatâd iddo deithio i Rufain o ddydd Mawrth i ddydd Iau bob wythnos.

Rhaid iddo dreulio o leiaf bedair awr un diwrnod yr wythnos yn gwneud gwasanaeth cymunedol mewn cartref i’r henoed.

Cafodd Berlusconi ei ddedfrydu i bedair blynedd am dwyll treth ond cafodd y ddedfryd ei gostwng i flwyddyn oherwydd amnest cyffredinol.

Ar hyn o bryd, mae Berlusconi hefyd o flaen ei well am lygredd gwleidyddol yn Napoli ac o dan ymchwiliad yn Milan am ymyrryd a thyst mewn achos llys yn ymwneud a phartïon rhyw yn ei fila ger Milan.