Mae cyd-sylfaenydd cwmni cyfrifiadurol Mozilla, Brendan Eich, yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weithredwr, yn dilyn protestiadau tros ei agwedd tuag at briodasau hoyw.

Roedd wedi cefnogi gwaharddiad yng Nghaliffornia, ac wedi cyfrannu $1,ooo i ymgyrch yn 2008 i basio cymal cyfreithiol yn y dalaith sy’n gwahardd priodas rhwng pobol o’r un rhyw.

Ond pan gafodd ei enwi’n Brif Weithredwr, fe ddaeth protestiadau mawr. Fe aeth y wefan OKCupid cyn belled a rhoi neges ar ei phrif ddalen yn awgrymu na ddylai defnyddwyr ddefnyddio porwr Mozilla i fynd i mewn iddi.

Mae cadeirydd Mozilla, Mitchell Baker, wedi ymddiheuro ar ran y cwmni mewn llythyr agored ar-lein, gan nodi hefyd fod Mr Eich yn rhoi’r gorau i’w swydd “er mwyn y cwmni”.