Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi rhybuddio Prydeinwyr i ffoi o Dde Swdan.

Dywed ei fod yn “bryderus iawn” am y trais cynyddol yno, a’i fod wedi bod yn trafod y sefyllfa gydag ysgrifennydd tramor y wlad. Mae’n galw ar lywodraeth De Swdan i wneud popeth yn ei gallu i weithio dros heddwch.

Mae’r wlad newydd yn nwyrain Affrica, a enillodd annibyniaeth yn 2011, yn wynebu tensiynau a pholareiddio cynyddol rhwng gwahanol garfannau.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod hyd at 500 o bobl wedi cael eu lladd  yno ers i wrthryfelwyr geisio disodli’r llywodraeth yr wythnos ddiwethaf.

Mae dwy awyren filwrol o Brydain eisoes wedi cludo Prydeinwyr adref dros y dyddiau diwethaf a bydd y drydedd, a’r olaf, yn hedfan i’r brifddinas Juba yfory.

“Dw i’n annog unrhyw Brydeinwyr sydd ar ôl i fanteisio ar y drydedd awyren y byddwn yn ei darparu i adael y wlad,” meddai William Hague.