Trychineb Fukushima wedi cael effaith
Mae Japan wedi gostwng ei thargedau amgylcheddol, gan roi pwysau pellach ar gytundebau rhyngwladol.

Fe gytunodd Cabinet y wlad fod targed cynharach yn afrealistig ac maen nhw bellach yn sôn am gynnydd o 3% mewn nwyon tŷ gwydr rhwng 1990 a 2020 – o’i gymharu â gostyngiad o 25%.

Doedd yna ddim sail o gwbl i’r targed hwnnw, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Japan.

Mae’r targed newydd yn golygu gostyngiad rhwng hyn a 2020 ond, ar hyn o bryd, mae lefelau nwyon tŷ gwydr yno ar gynnydd.

Effaith Fukushima

Mae’r newid yn rhannol oherwydd trychineb atomfa niwclear Fukushima sydd wedi arwain at gau atomfeydd y wlad.

Mae wedi troi’n ôl fwy at olew, glo a nwy a defnddio cynhyrchwyr trydan disel.

Mae Japan hefyd wedi tynnu’n ôl o gytundeb amgylcheddol rhyngwladol Kyoto.