Fe fydd y capsiwl gofod cyntaf i deithio o gwmpas y ddaear yn mynd ar werth yn Efrog Newydd ym mis Ebrill.

Defnyddiwyd y Vostok 3KA-2 Sofietaidd i wneud y daith arbrofol gyntaf i’r gofod, gan roi ci byw a model o berson ar ei fwrdd, er mwyn gweld a fyddai hi’n ddiogel i anfon dyn i’r gofod.

Teithiodd y capsiwl ar daith dwy awr o gwmpas y ddaear, gyda’r ci ar ei fwrdd, cyn cyrraedd yn ôl yn ddiogel.

Digwyddodd y daith 18 niwrnod cyn i Yuri Gagarin deithio i’r gofod mewn capsiwl tebyg ar 12 Ebrill, 1961.

Bydd Arwerthwyr Sotheby’s yn gwerthu’r capsiwl ar 12 Ebrill, 50 mlynedd ers taith Yuri Gagarin i’r gofod.

Bydd y capsiwl yn cael ei arddangos i’r cyhoedd o heddiw nes diwrnod yr arwerthiant.  Mae disgwyl cynigion rhwng $2m a $10m amdano.

Roedd y capsiwl yn cynnwys 1,800lb o offer yn wreiddiol, ond mae’r offer bellach wedi ei dynnu oddi yno am resymau diogelwch.

Yn ôl Sotheby’s fe brynwyd y capsiwl flynyddoedd yn ôl gan berchennog dienw sydd bellach eisiau ei werthu.