Gwennol ofod Discovery
Fe fydd tyrfa o 40,000 yn heidio i Ganolfan Ofod Kennedy yn Florida er mwyn gwylio gwennol ofod hynaf America yn gwneud ei thaith olaf i’r gofod.

Mae’r wennol ofod Discovery wedi teithio 38 o weithiau  i’r gofod ers lansio am y tro cyntaf yng nghanol yr 80au, ac fe fydd hi’n gwneud ei thaith olaf ychydig oriau wedi iddi wawrio yn Fflorida.

Mae Nasa yn hyderus bod y problemau a ddaeth i’r amlwg ychydig oriau cyn yr oedd y wennol i fod i lansio ym mis Tachwedd wedi eu datrys.

Mae timau atgyweirio wedi bod yn gweithio ar y wennol ers bron i bedwar mis i sicrhau na fydd rhagor o nwy hydrogen yn gollwng ac na fydd craciau yn ymddangos yn y tanc tanwydd.

Bydd y Discovery yn anelu am yr Orsaf Ofod Ryngwladol gyda chriw o chwech ar ei bwrdd.

Hedfanodd Discovery am y tro cyntaf ym 1984, ac mae hi wedi teithio dros 143 miliwn o filltiroedd ers hynny.