Silvio Berlusconi
Chaiff cyn Brif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, ddim gweithredu yn wleidyddol am ddwy flynedd yn dilyn cyhoeddi gwaharddiad gan Lys Apêl yn Milan.

Fydd y gwaharddiad ddim yn cychwyn yn syth gan y bydd yn rhaid i Senedd yr Eidal gytuno efo’r penderfyniad.

Fe wnaeth y llys gyhoeddi’r gwaharddiad ar ôl cael Berlusconi yn euog o dwyll er mwyn osgoi talu trethi.

Yn wreiddiol roedd wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd o waharddiad a phedair blynedd o garchar ond fe wnaeth Uchel Lys yr Eidal orchymun y Llys Apêl i ail-ystyried hyd y gwaharddiad.

Mae Berlusconi eisoes yn wynebu colli ei sedd yn y senedd yn dilyn deddf basiwyd yn 2012 sy’n dwued na chaiff unhryw un sydd wedi cael dedfryd o dros ddwy flynedd o garchar ddal na sefyll am swydd gyhoeddus am gyfnod o chwe mlynedd.