Mae achos llys i benderfynu pwy oedd yn gyfrifol am lygru Gwlff Mecsico gydag olew, wedi clywed honiadau yn erbyn y cwmni rhyngwladol, BP.

Mae’r honiadau’n dweud fod y cwmni wedi camarwain swyddogion llywodraeth ffederal trwy beidio dweud y gwir i gyd am faint yn union o olew crai oedd yn ffrydio allan o ffynnon dan-ddaear.

Yn ystod datganiadau agoriadol, mae’r achos yn New Orleans wedi clywed honiadau am sut y methodd BP a pharatoi ar gyfer trychineb o’r fath, a’i fod hefyd wedi dweud celwydd, yn honedig, am faint y drychineb.

Mae disgwyl i’r Barnwr Carl Barbier wrando ar dystiolaeth am y mis nesa’, cyn dod i benderfyniad ynglyn a faint yn union o olew gafodd ei ryddhau i’r mor a llygru’r Gwlff.