Mae daeargryn mawr wedi taro de orllewin Pakistan gan orfodi pobl o’u tai ac allan i’r strydoedd wrth i adeiladau uchel ysgwyd yn ffyrnig.

Mae adroddiadau yn honni fod nifer o dai wedi cael eu dinistrio yn rhanbarth Awaran o’r wlad, lle roedd canolbwynt y daeargryn, ac mae’n ymddangos bod nifer wedi marw er nad oes cadarnhad o’r ffigwr hyd yn hyn.

Yn ôl adroddiad gan Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau, roedd y daeargryn yn mesur 7.8 ar y raddfa Richter ac roedd y daeargryn wedi taro yn ardal Baluchistan sy’n gymharol wasgaredig o ran poblogaeth.

Dywedodd un llygad dyst o Karachi, Mohammed Taimur, “Roeddwn yn gweithio ar fy nghyfrifiadur yn y swyddfa pan deimlas gryndod mawr. Roedd y bwrdd a’r cadeiriau yn ysgwyd i gyd.”

Fis Ebrill y llynedd bu daeargryn mawr dros y ffin yn Iran a laddodd 35 o bobl yn Pakistan. Mae’r wlad yn dioddef o ddaeargrynfeydd yn gymharol aml.