Anders Breivik
Mae cais gan y llofrudd Anders Behring Breivik o Norwy i ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Oslo wedi cael ei wrthod.
Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol nad oedd gan yr eithafwr asgell dde’r cymwysterau angenrheidiol i ddilyn y cwrs mewn gwleidyddiaeth.
Cafodd Breivik, 34, ei garcharu am 21 mlynedd am ladd 77 o bobl mewn ymosodiad gyda bomiau a dryll ddwy flynedd yn ôl.
Roedd ei gais i brifysgol wedi ennyn trafodaeth yn Norwy ynglŷn â ddylai rhywun oedd wedi cyflawni trosedd mor erchyll gael eu hystyried ar gyfer addysg bellach.