Edward Snowden
Mae’r cyn swyddog CIA  Edward Snowden wedi derbyn cynnig am loches wleidyddol gan Feneswela, yn ôl pennaeth pwyllgor materion tramor senedd Rwsia.

Roedd Feneswela wedi cadarnhau ei bod wedi derbyn cais am loches gan Edward Snowden yn gynharach heddiw.

Roedd Arlywydd Feneswela, Nicolas Maduro eisoes wedi cynnig lloches i Edward Snowden, sy’n parhau i fod ym maes awyr Moscow.

Mae’r Unol Daleithiau wedi canslo pasbort Edward Snowden, felly nid yw’n glir os yw’r dogfennau priodol ganddo sy’n caniatáu iddo adael Moscow.

Roedd Bolivia ac Ecuador hefyd wedi datgan eu bod yn barod i ystyried cais am loches gan Edward Snowden.

Mae Snowden wedi gwneud cais am loches mewn sawl gwlad ar ôl iddo ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol am wasanaeth cudd America.