Mae llys yn yr Aifft wedi gwrthod cais gan gyn-Arlywydd y wlad i gael ei ryddhau o’r carchar tra bod ymchwiliad i honiadau o lygredd yn mynd rhagddo.

Mae Llys Troseddol Cairo wedi gorchymyn y dylai Hosni Mubarak aros yn y ddalfa am 15 niwrnod, tra bod y cyhuddiadau’n cael eu hymchwilio.

Fe allai Mubarak benderfynu apelio’n erbyn penderfyniad heddiw. Ers camu i lawr o fod yn Arlywydd yn ystod protestiadau 2011, mae wedi treulio dwy flynedd dan glo.

Mae achos arall yn ei erbyn yn ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am farwolaethau bron i 900 o brotestwyr yn ystod Gwanwyn Arabaidd 2011.