Gorymdeithiodd miloedd o bobol ar strydoedd Catalwnia dros y penwythnos yn erbyn dymuniad llywodraeth Sbaen i ddiraddio’r iaith Gatalaneg fel iaith addysg.

Mae llywodraeth Sbaen yn dadlau mai Sbaeneg a Saesneg ddylai fod yn brif ieithoedd addysg yng Nghatalwnia, fyddai’n golygu mai trydedd iaith fyddai’r iaith frodorol.

Cafodd y brotest ei threfnu gan fwy na 40 o gymdeithasau, undebau llafur a sefydliadau eraill sy’n gwrthwynebu agwedd Llywodraeth Sbaen tuag at yr iaith.

Cafodd yr ymgyrch ei sefydlu’r llynedd ym Majorca yn erbyn cyflwyno’r Sbaeneg fel prif iaith mewn ysgolion.

Mae gwrthwynebwyr i’r cynllun hwnnw’n dadlau mai trwy gynnal yr iaith Gatalaneg fel prif iaith addysg y gellir sicrhau bod disgyblion yn gwbl ddwyieithog wrth iddyn nhw adael yr ysgol.

Ac mae tystiolaeth yn dangos nad yw gallu ieithyddol disgyblion yn Sbaeneg yn cael ei effeithio os ydyn nhw’n medru’r Gatalaneg hefyd.

‘Dicter’

Dywedodd Cyfarwyddwr y Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant Mercator, Elin Haf Gruffudd Jones wrth Golwg360: “Mae’r iaith Gatalaneg wedi bod yn brif iaith Catalwnia ers 30 mlynedd.

“Mae Llywodraeth Sbaen wedi mynd uwchlaw Llywodraeth Catalwnia ac mae yna ddicter mawr oherwydd hyn.

“Mae’r ymyrraeth ddiweddaraf wedi ychwanegu at y dicter, ac mae Gweinidog Addysg Catalwnia wedi gwrthwynebu’r fath ymyrraeth hefyd.”

Cynnal yr iaith y tu allan i’r ysgol

Ychwanegodd Elin Haf Gruffudd Jones: “Mae yna dystiolaeth sy’n dweud bod disgyblion sy’n ddwyieithog – Sbaeneg a Chatalaneg – yn dysgu Catalaneg yn gynt.

“Mae cynnal yr iaith y tu allan i’r ysgol yn bwysig hefyd. Mae polisi iaith blaengar Catalwnia yn creu siaradwyr hyderus yn y ddwy iaith.

“Lle mae’r Gatalaneg yn brif iaith y cartref, mae llawer o ieithoedd eraill hefyd yn cael eu siarad.

“Iaith gyffredin ydy hanfod y ddadl hon. Mae Llywodraeth Catalwnia am i’r Gatalaneg fod yn brif iaith, ond mae Llywodraeth Sbaen yn dymuno bod Sbaeneg yn brif iaith.

“O ran y gyfraith, bu’r Gatalaneg yn briod iaith ers 1983 fel rhan o ddeddf, ac mae pob llywodraeth ers hynny wedi gweithredu ar y cysyniad hwnnw.”