Oscar Pistorius - ar y trac
Mae’r heddlu yn Ne Affrica yn holi’r athletwr Olympaidd a Pharalympaidd, Oscar Pistorius wedi i’w gariad gael ei saethu’n farw.

Cafodd y ddynes ei saethu yn y cartre’ yn Pretoria, ac mae yna le i gredu bod Pistorius yn credu mai lleidr oedd hi.

Yn ôl Sky News, cafodd hi ei saethu yn ei phen a’i braich.

Oscar Pistorius, sy’n 26 oed, oedd y person cynta’ i redeg yn y Gemau Olympaidd ar ôl colli dwy goes.