Felix Baumgartner
Mae dyn o Awstria wedi llwyddo yn ei ymgais i neidio o falŵn yn y gofod i lawr i’r ddaear.

Disgynnodd Felix Baumgartner 24 milltir a chyrhaeddodd gyflymder o 834mya  cyn iddo agor ei barasiwt a glanio’n ddiogel yn anialwch New Mexico.

Gwyliodd dros 8m o bobol y naid 10-munud yn fyw ar y we.

Mae Felix Baumgartner yn gyn-awyrfilwr ac wedi cwblhau sawl naid beryglus yn y gorffennol, gan gynnwys o 97,000 o droedfeddi ym mis Gorffennaf.

Ond yn dilyn y naid ddoe, oedd yn 128,000 o droedfeddi o uchder, mae’r Awstriad 42 oed wedi dweud ei fod yn rhoi’r siwt neidio yn y to ac yn troi at hedfan hofrenyddion.