Laurent Gbago
Mae un o fanciau mwyaf y Traeth Ifori wedi cau i lawr dros dro yn sgil argyfwng gwleidyddol y wlad.

Dywedodd banc y BICICI, cangen o fanc BNP Paribas Paris, eu bod wedi atal gweithrediadau’r Traeth Ifori am y tro.

Mae’r gwrthdaro yn y Traeth Ifori wedi gwaethygu’n raddol ers mis Tachwedd, ers i’r Arlywydd Laurent Gbagbo wrthod ildio’i rym ar ôl colli’r etholiad arlywyddol yno.

Mae sefydliadau rhyngwladol yn dweud mai ei wrthwynebydd Alassane Ouattara enillodd y bleidlais, ac mae’r Cenhedloedd Unedig bellach wedi cadarnhau hynny.

Dywedodd banc BICICI na allen nhw barhau i weithredu tan fod yna fwy o sefydlogrwydd yn y wlad.

Doedden nhw ddim yn gallu “diogelu arian” eu cwsmeriaid na chwaith “diogelwch corfforol” eu staff, meddai llefarydd.

Yn ôl adroddiadau mae banciau eraill y wlad yn ystyried cymryd tebyg,  gan arwain at bryderon  y gallai arian redeg allan yn y wlad.