Bydd cynhadledd “ddadleuol” ynghylch Cristnogaeth yn cael ei chynnal yn Aberystwyth y penwythnos hwn.

Nod y digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn (Mawrth 30) yng Nghanolfan Merched y Wawr, yw trafod pa un ai “fel myth yn hytrach na chofnod hanesyddol y mae gweld Cristnogaeth?”

Ymhlith y cyfranwyr ar y dydd fydd y gwyddonydd Gareth Wyn Jones, a fydd yn cymharu’r weledigaeth Gristnogol â’r dystiolaeth wyddonol, tra bydd y capelwr ffyddlon, Arwel ‘Rocet’ Jones, yn disgrifio sut y bu raid iddo ef ail-ddiffinio ei safbwynt dros y blynyddoedd.

Mae disgwyl cyfraniadau hefyd gan yr academydd Catrin Williams, a fydd yn trafod agweddau ar ‘ffydd’ a ‘chredu’, ynghyd â’r dyneiddiwr, Huw Williams, a fydd yn holi ai ‘troi yn ôl at grefydd’ yw’r ffordd ymlaen iddo.

Un o ysgogwyr y gynhadledd yw cyn-Aelod Seneddol Ceredigion, Cynog Dafis, sydd ei hun yn fab y Mans.

“Mae’r nifer sy’n bwriadu mynychu yn cynyddu ond bydd digon o le i bawb ac rwy’n edrych ymlaen at drafodaeth fywiog ac agored,” meddai.