Mae mwnci tew sydd wedi pesgi ar fwydydd sothach a sbwriel ar strydoedd Bangkok bellach ar ddeiet lem o ffrwythau, llysiau a phrotein.

Cafodd y mwnci, sy’n cael ei alw yn ‘Uncle Fat’, ei achub gan swyddogion bywyd gwyllt y brifddinas wedi i luniau ohono ledu ar y cyfryngau cymdeithasol fis diwethaf.

Mae gweld mwncwn gwyllt yn crwydro’r strydoedd yn gyffredin yng Ngwlad Thai, ac mae’r rhan fwya’ ohonyn nhw o frîd y macaques, ac yn pwyso o gwmpas 20lb.

Ond are i drymaf roedd Uncle Fat yn pwyso deirgwaith yn fwy na hynny, tua 60lb.

Esboniodd y swyddogion bywyd gwyllt ei fod bellach mewn “cyflwr difrifol” ac mewn perygl difrifol o ddioddef clefyd y galon a chlefyd siwgr.

Maen nhw wedi’i ddal ac yn rhoi llysiau, ffrwythau a phrotein iddo er mwyn gwella ei ddeiet, ond yn ôl y swyddogion – “mae hyn yn enghraifft pam na ddylai pobol fwydo bwydydd sothach i fwncwn.”