Tafarn y Golden Cross yng Nghaerdydd
Darluniau o dafarnau eiconig Caerdydd fydd canolbwynt arddangosfa gelf a fydd yn agor dros y penwythnos.

Mae’r artist Christopher Langley, sy’n wreiddiol o Bontypridd ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, wedi mynd ati i greu darluniau o dafarnau Caerdydd y gorffennol a’r presennol.

Yn eu plith mae rhai eiconig fel y Golden Cross, y Glyndŵr, Cow & Snuffers a’r Vulcan (sydd bellach wedi ei symud i Amgueddfa Sain Ffagan).

Y prif ysgogiad dros greu’r arddangosfa oedd cadw talp o hanes ar glawr – neu’n hytrach ar gynfas.

“Mae’n bwysig cadw rhan o hanes Caerdydd – a rhan o hanes Cymru,” meddai Christopher Langley.

“Pan mae tafarnau’n mynd, mae’r gymuned ei hun yn mynd … felly dw i wedi trial dal awyrgylch yr hyn oedd yn bodoli ar y pryd.”

Bydd yr arddangosfa yn agor yfory yn Cwrt Insole, Llandaf.