Mae siambr gladdu sy’n dyddio’n ol tua 3,700 o flynyddoedd, wedi’i ddarganfod yn yr Aifft.

Mae’r darganfyddiad wedi’i wneud yn ardal Dahshour, ar gyrion Giza.

Y gred ydi fod y siambr gladdu wedi’i chreu ar gyfer merch y brenin Emnikamaw, sydd â’i byramid rhyw 600 metr oddi wrthi. Oddi mewn i’r siambr, fe ganfuwyd pedwar o jariau a phlât, pob un gydag ysgrifen hieroglyffig arno.

Y mis diwethaf, fe ddaeth archeolegwyr o hyd i weddillion pyramid yn yr un ardal, gydag ysgrifen hieroglyffig yn crybwyll enw’r brenin Emnikamaw.