Stormtroopers Star Wars (Llun: Jordan Strauss/Invasion/AP)
Heddiw yw Diwrnod Dathlu Star Wars ac mae un fu’n actio arth fach flewog yn y ffilm Return of the Jedi wedi bod yn dathlu.

Mae Warwick Davies wedi trydar hen lun ohono’i hun yn ifanc gyda chasgliad swmpus o deganau a stwff Star Wars.

Yn ogystal ag ymddangos fel arth fach yn Return of the Jedi yn y 1980au, mae Warwick Davies wrthi ar hyn o bryd yn ffilmio’r bennod ddiweddaraf yn y gyfres hirfaith, sef Star Wars: The Last Jedi.

Wrth drydar y llun, mae Warwick Davies wedi dymuno Diwrnod Dathlu Star Wars hapus i bawb a chynnwys y cyfarchiad ‘May the 4th be with you!’ sy’n chwarae ar linell enwog o Star Wars pan mae’r Jedi yn dweud ‘May the force be with you’.