Dwynwen Lloyd Llywelyn (Llun: golwg360)
Mae cariad at ardal yn bwysig i ferch sy’n gweithio o ddydd i ddydd yng nghalon cefn gwlad Ceredigion.

Dwynwen Lloyd Llywelyn ydy Cyfarwyddwr Theatr Felin-fach yn Nyffryn Aeron ac mae’n cydnabod fod cariad yn bwysig iddi hi o safbwynt ardal, iaith a diwylliant.

“Mae cariad yn golygu popeth,” meddai gan ddweud mai Diwrnod Santes Dwynwen y bydd hi’n dathlu, nid Sain Ffolant.

Ac mae Dwynwen Lloyd Llywelyn hefyd yn cydnabod fod rhai yn cael trafferthion gyda’i henw.

Yr amrywiadau y mae hi wedi’u clywed ydy ‘Di’, ‘Doinwen’, ‘Dunwen’ … a hyd yn oed ‘Ding Dong!’