Dwynwen Teifi a''i wyr (Llun: golwg360)
Mae Dwynwen Teifi o Landysul yng Ngheredigion wedi profi math newydd o gariad, meddai, ers dod yn fam-gu yn ddiweddar.

Dywed fod ei hŵyr, Osian, wedi dod â math newydd o gariad i’w byd a’i bod yn cysylltu diwrnod Santes y Cariadon â chariad at deulu.

Bu Dwynwen Teifi yn athrawes a phennaeth Addysg Grefyddol yn ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi am 39 mlynedd, ac wrth feddwl am gariad mae’n meddwl am y geiriau Groeg, sef Eros, Philia ac Agape.

“Mae’r cariad yn ymwneud â chariad rhamantaidd, cariad at deulu a chariad ar draws y byd yn enwedig y gwaith elusennol sy’n cael ei wneud,” meddai.

Mae Dwynwen Teifi hefyd yn diwtor iaith i oedolion ac esbonia yn y fideo hwn fod ei henw hi “yn wers Gymraeg cyfan yn ei hun.”