Golchdai Magdalen
Mae llywodraeth Iwerddon wedi ymddiheuro i’r miloedd o fenywod gafodd eu cadw mewn tlotai, neu olchdai Magdalen fel oedden nhw’n cael eu hadnabod.

Mae ymchwiliad wedi darganfod bod 2,124 o’r rhai a gafodd eu cadw yn y sefydliadau, oedd yn cael eu rhedeg gan leianod, wedi cael eu hanfon yno gan yr awdurdodau.

Mae cofnodion wedi cadarnhau bod 10,012 o ferched wedi treulio amser yng ngolchdai Magdalen ar draws y wlad rhwng 1922 a 1996.

Mae’r merched  wedi bod yn ymgyrchu dros y 10 mlynedd diwethaf am ymddiheuriad oddi wrth y wladwriaeth a’r eglwys yn ogystal â galw am iawndal.

Roedd y rhan fwyaf o’r merched wedi cael eu carcharu am fân droseddau fel dwyn yn hytrach na llofruddiaeth a babanladdiad ond darganfyddodd yr ymchwiliad bod rhai wedi cael eu hanfon am droseddau mor ddiniwed a pheidio talu am docyn trên.