Vicky Pryce
Dial oedd bwriad Vicky Pryce pan aeth at y wasg i ddweud wrthyn nhw ei bod wedi cymryd pwyntiau ar ran ei chyn-wr Chris Huhne am oryrru, clywodd llys heddiw.

Cafodd y cyn weinidog ynni ei ddal yn goryrru ym mis Mawrth 2003 ac fe wnaeth ddwyn perswâd ar ei wraig i gymryd y pwyntiau ar ei thrwydded yrru fel na fyddai e’n colli ei drwydded.

Fe ymddangosodd yr honiadau mewn papurau newydd yn ddiweddarach, gan arwain at ymchwiliad.

Roedd Huhne wedi mynnu nad oedd sail i’r honiadau ond ddoe, fe blediodd yn euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Southwark. Ar ôl ei ymddangosiad yn y llys, fe ymddiswyddodd fel Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Eastleigh.

Mae Pryce, 60, yn gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder gan honni bod Huhne wedi dwyn perswad arni i gymryd y pwyntiau ar ei ran.

Dywedodd Andrew Edis QC ar ran yr erlyniad bod yr honiadau wedi dod i’r amlwg yn 2010/2011 ar ôl i Pryce roi’r stori i sawl papur newydd mewn ymdrech i ddinistrio gyrfa ei gwr ar ôl i’w priodas chwalu. Roedd Huhne wedi cyfaddef iddo gael perthynas gyda Carina Trimingham.

Clywodd y rheithgor fanylion e-byst gafodd eu hanfon gan Pryce at olygydd gwleidyddol y Sunday Times, Isabel Oakeshott lle’r oedden nhw’n trafod sut fyddai’r stori’n cael ei gyhoeddi ac yn dod a diwedd i yrfa Huhne.

Dywedodd Andrew Edis bod yn rhaid i’r rheithgor benderfynu a oedd Pryce, sy’n economegydd, wedi cael ei gorfodi gan Huhne i gymryd y pwyntiau neu a oedd hi’n ddynes “penderfynol” oedd a’i bryd ar ddial ar ei gwr.

Fe fydd achos Pryce yn parhau ddydd Iau.