Mae cynigion i gyflwyno system sy’n rhagdybio dymuniad pobol i roi organau yng Ngogledd Iwerddon wedi cael eu cyhoeddi.

Mae arweinwyr gwleidyddol Stormont wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y newid posibl heddiw.

Byddai’r system yn golygu bod organau yn cael eu cyfrannu’n awtomatig oni bai bod pobol yn datgan eu gwrthwynebiad.

Ymunodd Prif Weinidog Peter Robinson a’r Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness gyda Gweinidog Iechyd Stormont, Edwin Poots, yn Ysbyty’r Ddinas yn Belfast i gyhoeddi’r ymgynghoriad.

Os fydd yr adborth yn gadarnhaol, maen nhw’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno’r system newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n pwyso ar hyn o bryd i gyflwyno mesur tebyg. Cafodd y mesur ei gyflwyno gerbron y Cynulliad ym mis Rhagfyr ac mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd yn cael ei basio erbyn yr haf.

Y llynedd, pan wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad i drafod y newid, daeth yr ymchwil i’r casgliad bod pobl Cymru o blaid system o’r fath.

Ond yn y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Edwin Poots bod David Cameron wedi dweud wrtho nad oedd unrhyw gynlluniau ar gyflwyno’r system yng ngweddill y DU  a dyna pam bod Gogledd Iwerddon wedi penderfynu bwrw ymlaen â’i gynnig ei hun.