Enda Kenny
Mae Taoiseach Iwerddon, Enda Kenny, wedi ymrwymo i ddatrys yr argyfwng cig ceffyl ar ôl i benaethiaid diogelwch bwyd rybuddio bod twyllwyr yn cyflwyno cynnyrch llygredig i mewn i’r gadwyn fwyd.

Gan fod y sgandal wedi lledaenu i ragor o broseswyr bwyd, mae heddlu twyll Iwerddon wedi cael eu galw i helpu’r awdurdodau amaeth i ddod o hyd i’r ffynhonnell.

“Mae’n fater sydd angen ei ddatrys a bydd yn cael ei ddatrys,” meddai Enda Kenny.

Cwmni Rangeland Foods yn Monaghan yw’r ffatri brosesu ddiweddaraf i gau ar ôl i sampl o’r ffatri ddangos prawf positif gyda 75% o DNA ceffyl mewn cynhwysyn crai.

Mae Rangeland Foods yn cyflenwi byrgyrs i un o gadwyni bwytai byrgyrs mwyaf Iwerddon, Supermac, ond mae prif weithredwr y bwyty Pat McDonagh wedi mynnu bod eu holl byrgyrs yn 100% Gwyddeleg.

Mae’r Athro Alan Reilly, am friffio’r pwyllgor seneddol ar y ddadl y prynhawn yma. Ei ymchwil o ar ran Awdurdod Diogelwch Bwyd Iwerddon wnaeth ddatgelu bod byrgyrs wedi eu llygru wedi eu darganfod yn rhan o gynnyrch Gwyddelig.

Mae awdurdodau Iwerddon a’r DU yn dweud bod y cig llygredig wedi dod o Wlad Pwyl, naill ai’n uniongyrchol, neu drwy fasnachwyr yn y DU neu un masnachwr yn Iwerddon.

Bydd Gweinidog Amaeth Iwerddon, Simon Coveney, hefyd yn briffio’r pwyllgor seneddol ar y ddadl cig ceffyl y prynhawn yma ar ôl y profion positif yn Rangeland.