Atomfa Hinkley Point
Mae cwmni Centrica wedi penderfynu peidio codi pedair atomfa niwclear fel rhan o raglen o bwerdai newydd ym Mhrydain.

Dywed y cwmni fod costau buddsoddi mewn niwclear wedi cynyddu a bod yr amserlen ar gyfer codi atomfeydd wedi eu hymestyn.

Dywedodd Sam Laidlaw, prif weithredwr Centrica, fod trychineb Fukushima yn Japan wedi “cael effaith” ar yr amserlen o godi unrhyw atomfa newydd.

Ychwanegodd fod gan niwclear rôl bwysig i’w chwarae ym maes ynni Prydain, ond na fyddai’n iawn i Centrica a’i gyfranddalwyr fuddsoddi mewn adweithydd newydd ar hyn o bryd.

Hinkley Point ym Môr Hafren

Mae Centrica’n eiddo i Nwy Prydain ac mae gan y cwmni gyfran o 20% yn wyth pwerdy niwclear EDF Energy yn y Deyrnas Unedig. Nid yw’r gyfran yna wedi cael ei effeithio, ond ni fydd Centrica yn cymryd opsiwn o berchen ar 20% o bwerdai newydd Hinkley Point ym Môr Hafren, a Sizewell yn Suffolk.

Mae EDF Energy wedi dweud eu bod nhw’n parchu penderfyniad Centrica a bod adweithydd Hinkley Point C yn mynd yn ei flaen yn dda.

Mae CND Cymru wedi rhybuddio fod Hinkley Point C “ar garreg drws Cymru” ac y byddai unrhyw ddamwain yno yn cael effaith ar dde Cymru. Mae’r Barri 14 milltir o Hinkley point, ac mae dwy atomfa ar y safle eisoes.

‘Breuddwyd niwclear yn troi’n hunllef’

Mae llefarydd o’r adran ynni wedi dweud fod penderfyniad Centrica yn “adlewyrchu blaenoriaethau buddsoddi’r cwmni ac nid yn adlewyrchiad o bolisi Llywodraeth Prydain.

“Mae’r ffaith fod Hitachi newydd brynu Horizon Nuclear Power yn dystiolaeth glir o atyniad y farchnad niwclear yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

Mae Hitachi wedi dweud eu bod nhw am barhau gyda chynllun Horizon i ddatblygu atomfa newydd yn y Wylfa ar Ynys Môn.

Mae arbenigwyr yn rhagweld mai buddsoddwyr o China fydd yn camu i mewn i’r bwlch sy’n cael ei adael gan Centrica yn y maes niwclear.

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi ymateb drwy ddweud fod y “freuddwyd niwclear yn troi’n hunllef.”

“Mae penderfyniad Centrica yn arwydd pellach fod costau’r math yma o ynni yn codi y tu hwnt i reolaeth,” meddai Andrew Pendleton o’r mudiad.