Mae ymdrechion i ddod o hyd i swyddi ar gyfer miliwn o bobol ifanc yng ngwledydd Prydain yn cael eu drysu gan ormod o waith papur a gor-reoli gan lywodraeth San Steffan, yn ol arweinwyr awdurdodau lleol o bob cwr o wledydd Prydain.

Mae’r LGA (Cymdeithas Llywodraeth Leol) yn dweud fod angen ymgyrchoedd ac ymdrechion llawer mwy lleol wrth fynd i’r afael a diweithdra ymysg pobol ifanc.

Ac, o’i wneud yn iawn, fe ellid torri lefelau diweithdra o 20%, medden  nhw.

Mae adroddiad newydd yn beio system “rhy gymhleth” o greu gwaith, gyda 33 cynllun gwahanol, yn targedu 13 o oedrannau gwahanol, ar gost o £15bn y flwyddyn.