Y fflatiau yn Llundain
Mae Maer Llundain, Boris Johnson, wedi dweud heddiw ei bod hi’n rhy gynnar i benderfynu os dylid cael rhagor o gyfyngiadau ar adeiladau uchel sy’n cael eu hadeiladu yn y ddinas.
Mae’r ymchwiliad yn parhau i geisio darganfod sut yr oedd hofrennydd wedi taro craen yn Ne Lambeth bore ddoe gan ladd dau o bobl ac anafu 12.
Bu farw peilot yr hofrennydd, Peter Barnes a dyn arall oedd ar ei ffordd i’w waith, Matthew Wood, 39, o dde Llundain yn y ddamwain.
Mae’r ddamwain wedi codi cwestiynau ynghylch diogelwch awyrennau a hofrenyddion sy’n hedfan dros y ddinas.
Dywedodd Boris Johnson: “Rwy’n meddwl ei bod hi’n rhy gynnar i ddod at gasgliadau.
“Bydd ymchwiliad yn edrych ar y cwestiynau yma ac yn amlwg, byddwn ni eisiau astudio’r canlyniadau a ffurfio ein casgliadau ein hunain.”
Bu’n rhaid i dros 40 o bobl sy’n byw yn ardal y ddamwain dreulio noson oddi cartref neithiwr oherwydd y difrod a achoswyd ar ôl i’r hofrennydd ffrwydro ar ôl taro’r ddaear.