Mae dau o bobl wedi marw mewn damwain hofrennydd  yng nghanol Llundain bore ma, meddai Scotland Yard.

Mae’n debyg bod yr hofrennydd wedi taro craen ar ben fflatiau newydd ger Afon Tafwys.

Ffrwydrodd yr hofrennydd cyn taro’r llawr mewn stryd ger gorsaf Vauxhall tua 8yb –  cyfnod prysura’r bore.

Dywed Scotland Yard bod dau o bobl wedi marw ar y safle, a bod o leiaf naw o bobl wedi cael eu hanafu. Mae un person wedi ei anafu’n ddifrifol ac eraill gydag anafiadau llai difrifol.

Dywed y frigâd dân bod un dyn wedi cael ei achub o gar oedd ar dân.

Roedd un o’r rhai fu farw yn yr hofrennydd.  Yn ol adroddiadau roedd yr hofrennydd yn hedfan o Gatwick i Elstree, a chredir bod dau o bobl ar fwrdd yr hofrennydd ar y pryd.

Mae’n debyg bod peilot yr hofrennydd wedi gwneud cais i lanio yn hofrenfa Llundain yn Battersea oherwydd y tywydd gwael, meddai llefarydd ar ran yr hofrenfa heddiw.

Roedd nifer o geir ac adeiladau cyfagos wedi mynd ar dân wrth i danwydd yr hofrennydd ollwng ar y ffordd.


Y fflatiau yn Llundain
Mae 60 o ddiffoddwyr  tân ar y safle yn Heol Wandsworth yn Vauxhall ar hyn o bryd, ac mae’r heddlu’n symud pobl o’r ardal.

Credir bod y craen ar ben bloc o fflatiau newydd yn St George’s Wharf. Yn ôl llygad dystion roedd niwl yn gorchuddio top y fflatiau bore ma.

Dywedodd Heddlu’r Met nad oes awgrym ar hyn o bryd ei fod yn ymosodiad terfysgol.