Mae mab i wraig Tywysog Cymru wedi canmol gwasanaeth brys Llundain, wedi iddo ef a’i deulu orfod gadael eu cartref oherwydd tân.

Fe gafodd Tom Parker Bowles, mab Duges Cernyw, ei ddeffro yn ystod oriau mân y bore oherwydd fod tân wedi cynnau mewn adeilad pum-llawr yn y stryd lle mae’n byw.

Fe fu tua 60 o ymladdwyr tân yn ceisio rheoli’r fflamau yn y ty gwag yn ardal Bayswater yng nghanol Llundain.

Yn ôl Tom Parker Bowles, 38, a orfodwyd i adael ei gartref gyda’i wraig a’i ddau o blant bach, roedd y digwyddiad wedi tanlinellu’r ysbryd “best of British”.

“Mae ganddon ni gymdogion da a charedig iawn a roddodd loches i ni wedi i ni gael ein symud o’n cartref,” meddai ar wefan Twitter, cyn ychwanegu fod digwyddiadau fel hyn yn dod â’r ysbryd Prydeinig gorau allan o bobol.”

Fe fu 25 o beiriannau tân yn rhan o’r digwyddiad, gydag ymladdwyr o naw gorsaf wahanol yn Llundain.