Mae’r Arglwydd Rees-Mogg, cyn-olygydd The Times, wedi marw yn 84 oed.

Fel golygydd y papur rhwng 1967 ac 1981, ac fel colofnydd cyson ar ôl hynny, roedd William Rees-Mogg yn ffigur dylanwadol yng ngwleidyddiaeth Prydain.  Fe fu hefyd yn is-gadeirydd y BBC ac yn gadeirydd Cyngor Celfyddydau Prydain.

Cafodd ei ddyrchafu’n arglwydd yn 1988 ac eisteddai fel croes-feinciwr yn Nhŷ’r Arglwyddi, er iddo sefyll fel ymgeisydd seneddol i’r Ceidwadwyr ddwywaith yn yr 1950au.

Ymysg y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo mae’r Prif Weinidog David Cameron:

“Mae William Rees-Mogg yn llawn haeddu’i le fel rhan o chwedloniaeth Fleet Street – wrth olygu’r Times trwy gyfnod cythryblus gyda dawn ac unplygrwydd,” meddai.

“Roeddwn i bob amser yn ei weld fel dyn llawn doethineb a chynghorion da – yn enwedig pan wnes i gychwyn fel Arweinydd yr Wrthblaid.”

Mae’n gadael gwraig a phump o blant, gan gynnwys yr Aelod Seneddol Torïaidd Jacob Rees-Mogg.