Tony Hall yn derbyn ei CBE
Mae Tony Hall, prif weithredwr y Tŷ Opera Brenhinol, wedi cael ei benodi yn gyfarwyddwr cyffredinol y BBC.

Fe fydd cyn gyfarwyddwr newyddion y BBC yn dechrau ei swydd fis Mawrth nesaf, gan olynu George Entwistle a ymddiswyddodd yn gynharach y mis hwn yn sgil helynt rhaglen Newsnight.

Dywedodd yr Arglwydd Patten, cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, y byddai cefndir newyddion Tony Hall yn ei wneud yn gaffaeliad gwerthfawr wrth i’r BBC geisio “adennill ei enw da.”

Mae Tony Hall hefyd yn ddirprwy gadeirydd Channel 4.

Fe fydd Tim Davie yn parhau yn gyfarwyddwr cyffredinol dros dro’r BBC nes i Tony Hall gymryd yr awenau.

Dywedodd yr Arglwydd Hall heddiw ei fod yn “frwd” am y BBC.

Mae’n ymuno a’r BBC yn ystod cyfnod o argyfwng i’r gorfforaeth yn dilyn helynt Jimmy Savile ac adroddiad Newsnight yn cysylltu’r Arglwydd McAlpine ag achosion o gam-drin plant.