Chris Kirkland
Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl i gôl-geidwad gael ei daro mewn gêm bêl-droed yng nghynghrair y Bencampwriaeth nos Wener.

Roedd yn rhaid i gôl-geidwad Sheffield Wednesday, Chris Kirkland, sy’n 31 oed, dderbyn triniaeth ar ôl yr ymosodiad yn ystod gêm ei glwb yn erbyn Leeds United.

Fe redodd dyn ar y maes ar ôl i Leeds sgorio gôl i ddod yn gyfartal yn y gêm. Fe darodd y  gôl- geidwad yn ei wyneb.

Dywedodd Heddlu Swydd Gaerloyw heddiw fod dyn o Cheltenham wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod. Bydd yn cael ei gludo i Dde Swydd Efrog i gael ei holi gan yr heddlu yno.