O wefan False Economy
Mae mudiad newydd i ymladd y toriadau mewn gwario cyhoeddus yn dweud y bydd mwy na 53,000 o swyddi’n cael eu colli yn y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y blynyddoedd nesa’.

Ac mae False Economy’n rhybuddio nad yw hynny’n cynnwys amcangyfrifon gan holl Fyrddau Iechyd Cymru a nifer o ymddiriedolaethau eraill ar draws gwledydd Prydain.

Mae’r mudiad, sy’n cael ei lansio’n swyddogol heddiw gyda chefnogaeth undebau llafur, yn dweud eu bod wedi cael ffigurau gan yr awdurdodau iechyd eu hunain.

Maen nhw’n pwysleisio bod y swyddi hynny’n cynnwys nyrsys, doctoriaid a deintyddion, gyda rhai ardaloedd yn colli rhwng 10% ac 20% o swyddi.

Er bod y mudiad ymgyrchu’n cydnabod y bydd y rhan fwya’n mynd trwy ddiswyddo gwirfoddol a pheidio â llenwi swyddi, maen nhw’n dweud y bydd sacio’n anorfod hefyd.

Maen nhw’n dweud bod yr amcangyfri’ diweddara’ ddwywaith yn fwy na’r hyn yr oedd Coleg Brenhinol y Nyrsys wedi’i ddweud yn yr hydref.

Meddai Brendan Barber

“Mae’r ymchwil newydd yn tanseilio honiad y Llywodraeth bod y Gwasanaeth Iechyd yn ddiogel yn eu dwylo,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Brendan Barber.

“Yn ogystal ag ad-drefnu’r Gwasanaeth, gan ddileu llawer o’i egwyddorion sylfaenol, maen nhw hefyd yn mynnu cael toriadau ar unwaith a fydd yn sicr o effeithio ar wasanaethau rheng flaen.”