Logo'r cwmni
Mae cwmni gwestai rhad yn dweud bod y dirwasgiad wedi eu helpu nhw i gynyddu eu busnes a’u helw.

Mae Travelodge hefyd yn llwyddo i agor rhagor o westai mewn trefi a dinasoedd, gan gynnwys un newydd yng nghanol Caerdydd eleni.

Fe gyhoeddodd y cwmni, sy’n berchen ar 26 o westai yng Nghymru, bod 13 miliwn o bobol wedi aros gyda nhw yn ystod 2010, cynnydd o 12% ar y flwyddyn gynt.

Yn ogystal â’r ffaith bod prisiau cymharol rad yn denu ymwelwyr, mae’r cwmni’n dweud bod y cwymp ym mhris eiddo hefyd yn golygu eu bod yn gallu agor mewn safleoedd oedd y tu hwnt i’w cyrraedd cyn hyn.

Yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae Travelodge wedi symud o ymyl traffyrdd i’r trefi, gan gynnwys llefydd llai fel Bae Colwyn a Chaernarfon.

Ar eu rhata’, mae’n bosib cael stafell am £19 y noson ond mae llawer dipyn drutach na hynny.

Eu nod yw cael 1,100 o westai a 100,000 o stafelloedd erbyn 2025.