William Hague - condemnio
Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi dweud wrth fab y Cyrnol Gaddafi yn Libya bod yr ymosodiadau marwol ar brotestwyr yno’n “annerbyniol” a “dychrynllyd”.

Fe fu William Hague yn siarad ar y ffôn gyda Saif Gaddafi sydd, yn ôl rhai, yn arwain y gweithredu yn erbyn gwrthdystwyr.

Yn ôl ffigurau answyddogol mae rhwng 200 a 300 o bobol wedi eu lladd wrth i’r Llywodraeth sathru ar y protestiadau yn ail ddinas fwya’r wlad, Benghazi.

Yn ôl William Hague, fe ddylai Libya ddechrau trafod gyda’r protestwyr, ond roedd rhagor o ladd heddiw wrth i’r lluoedd diogelwch ddefnyddio gynnau peiriant i saethu galarwyr a oedd yn gorymdeithio i gofio rhai o’r lladdedigion cynharach.

Yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae Libya wedi dod yn gyfeillion i wledydd gorllewinol fel y Deyrnas Unedig ac mae gan Brydain fuddiannau masnachol sylweddol yno.