Talaith Helmand
Lladdwyd dau filwr o Brydain a phedwar milwr o’r Unol Daleithau mewn dau ymosodiad gwahanol gan ddynion yn gwisgo lifrau heddlu Affganistan a militia’r wlad.

Cafodd y ddau filwr o Brydain eu saethu’n farw mewn man archwilio gan ddyn yn lifrai byddin Affganistan fe laddwyd pedwar Americanwr gan blismon efo llu Affganistan mewn man archwilio diarffordd.

Digwyddodd yr ymosodiadau i gyd yn ne’r wlad. Lladdwyd dau aelod o 3ydd Bataliwn Catrawd Swydd Gaer i’r de o Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand ac fe laddwyd yr Americanwyr yn nhalaith Zabul.

Mae nifer o filwyr wedi cael eu hanafu hefyd yn yr ymosodiad yn Zabul.

Hyd yma mae 51 o aelodau lluoedd rhyngwladol wedi cael eu lladd gan ddynion yn gwisgo lifrau un o luoeodd diogelwch Affganistan. Lladdwyd 15 yn ystod mis Awst.

Dywed yr awdurdodau yn Affganistan bod rhai o’r ymosodiadau wedi eu gwneud gan aelodau o’r Taliban mewn gwisg plismyn neu filwyr ond does dim dwywaith bod aelodau swyddogol o’r lluoedd hefyd wedi ymosod ar eu cyd-weithwyr o’r lluoedd rhyngwladol.

Mae milwyr lluoedd rhygnwladol yn aml yn gweithio gyda heddlu a milwyr Affganistan er mwyn eu hyfforddi a’u mentora i weithio ar eu pen ei hunain yn 2014 pan fydd nifer helaeth o luoedd NATO yn gadael y wlad.

Mae’r cyd-weithio yn gongl faen y bartneriaeth filwrol rhwng Kabul a NATO ac mae’r ymosodiadau ‘gwyrdd ar las’ bellach yn bygwth y cyd-weithio.

Rhoddodd yr Americanwyr y gorau i’r cynllun hyfforddiant efo’r heddlu dros dro  yn gynharach y mis yma oherwydd y cynnydd yn y nifer o ymosodiadau.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Amddiffyn y DU, Phillip Hammond ymweld â Affganistan yn ddiweddar ac yn ôl adroddiadau gan y BBC fe wnaeth o rybuddio yr Arlywydd Hamid Karzai bod yr ymosodiadau yma yn peryglu strategaeth y DU a’r UDA i adael y wlad.