Ardal Annecy yn Ffrainc
Mae merch 4 oed wedi cael ei darganfod yn fyw mewn car oedd yn cynnwys tri o bobl oedd wedi cael eu saethu’n farw yn yr Alpau yn Ffrainc. Credir eu bod yn aelodau o’r un teulu ac yn dod o Brydain.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad yn ardal Haute-Savoie, gan ddarganfod y ferch yn ddianaf ymhlith cyrff dyn a dwy ddynes yn y car.

Cafodd merch 7 oed ei darganfod yn gorwedd ar ochr y ffordd mewn cyflwr difrifol ger y car BMW tra bod seiclwr hefyd wedi cael ei saethu’n farw a’i ddarganfod gerllaw.

Mae’n debyg na chafodd y ferch 4 oed ei darganfod nes bod ymchwilwyr wedi dechrau gwneud archwiliad fforensig o’r car – tua wyth awr ar ôl i’r heddlu gael eu galw i’r digwyddiad.

Yn ôl adroddiadau roedd hi’n siarad Saesneg ac yn cuddio o dan y cyrff.

Mae’r cyfryngau yn Ffrainc yn dweud mai Saad al-Hilli, o Claygate,ger  Esher yn Surrey yw’r dyn gafodd ei ladd.

Roedd Saad al-Hilli yn ei 50au ac mae’n debyg mai ef oedd yn gyrru’r car adeg yr ymosdiad.

Dywed Heddlu Surrey eu bod yn helpu’r awdurdodau yn Ffrainc a’r Swyddfa Dramor.

DNA

Cafodd y car BMW ei ddarganfod pnawn ddoe mewn maes parcio ar gyrion coedwig ger Llyn Annecy, sy’n ardal boblogaidd gydag ymwelwyr.

Mae swyddogion yn Ffrainc wedi cadarnhau bod y car yn berchen i rywun o’r DU oedd yn aros mewn gwersyllfa gerllaw.

Roedd y dyn wedi cyrraedd y wersyllfa yn ardal Saint-Jorioz gyda dwy ddynes a dwy ferch ifanc, yn ôl yr erlynydd yn Annecy Eric Maillaud.

Dywedodd bod tystiolaeth, gan gynnwys DNA, yn cael ei anfon i’r awdurdodau ym Mhrydain. Ychwanegodd bod gwn wedi cael ei danio sawl gwaith tuag at y car.

Cafodd y ferch 7 oed ei chludo i Ysbyty Grenoble ac mae’n debyg ei bod mewn cyflwr sefydlog ar ôl cael triniaeth frys.

‘Lladrad wedi mynd o’i le?’

Dywedodd ymchwilwyr nad ydyn nhw wedi dod o hyd i’r gwn gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad a does neb wedi cael eu harestio. Dyw hi ddim yn glir a oedd mwy nag un person yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Maen nhw’n ystyried y posibilrwydd bod y gwn wedi cael ei danio yn ystod lladrad arfog oedd wedi mynd o’i le, a bod y seiclwr wedi bod yn dyst i’r digwyddiad.

Dywed y Swyddfa Dramor eu bod mewn cysylltiad â’r awdurdodau yn Ffrainc ac yn ceisio cael rhagor o wybodaeth.

Mae disgwyl i’r heddlu ryddhau rhagor o wybodaeth prynhawn ma.