Alex Salmond
Mae’n ymddangos y bydd yr Alban yn newid trefn yr etholiadau seneddol yno er mwyn osgoi gwrthdaro gyda’r Etholiad Cyffredinol.

Y disgwyl yw y byddan nhw’n penderfynu newid cyfnod eu senedd i bum mlynedd yn lle pedair a chynnal yr etholiad nesa’ ond un yn 2016.

Fe fyddai hynny’n rhoi pwysau ar y Cynulliad i wneud yr un peth, er bod y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi gwrthod y syniad hyd yn hyn.

Y broblem

Mae’r gwleidyddion yn Holyrood yn wynebu’r un broblem â gwleidyddion Cymru wrth i’r Llywodraeth yn Llundain drefnu Etholiad yn 2015 – yr un flwyddyn ag etholiadau’r ddwy wlad.

Roedd y rheiny wedi eu trefnu ers blynyddoedd oherwydd bod y Cynulliad a Senedd yr Alban yn eistedd am bedair blynedd am y tro.

Yn awr, mae Llywodraeth Gwledydd Prydain wedi penderfynu y bydd Senedd San Steffan yn eistedd am bum mlynedd ar y tro gan sicrhau gwrthdaro rhwng yr etholiadau unwaith bob 20 mlynedd.

‘Ffyrnig’

Yn ôl papur newydd y Scotsman, mae Llywodraeth yr Alban, Alex Salmond, a’r pleidiau eraill yng Nghaeredin i gyd o blaid y newid i dymor o bum mlynedd .

Er hynny, mae’r Prif Weinidog yn flin eu bod yn gorfod newid eu trefn ond yn dweud mai dyna’r ateb synhwyrol.

“Mae’r rhan fwya’ ohonon ni yn yr Alban yn ffyrnig bod dyddiad ein hetholiadau ni, a oedd wedi eu trefnu ers talwm, wedi cael ei wthio o’r neilltu’n ddifeddwl,” meddai Alex Salmond.