Mae aelod blaenllaw o’r heddlu wedi galw ar wleidyddion am gymorth i geisio dod â diwedd i’r trais ym Melffast ar ôl i blismyn gael eu targedu am y drydedd noson yn olynol.

Cafodd tân gwyllt a briciau eu taflu at yr heddlu yn ardal Carlisle Circus yng ngogledd y ddinas neithiwr.

Ond nid oedd y terfysgoedd mor ddifrifol â’r rhai sydd wedi cymryd lle dros y ddwy noson flaenorol pan gafodd 60 o blismyn eu hanafu.

Mae Dirprwy Brif Gwnstabl yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon wedi galw ar “y rhai hynny sydd â dylanwad” i geisio tawelu’r gwrthdaro rhwng teyrngarwyr a gweriniaethwyr.

Dywedodd Will Kerr ei fod yn poeni bod bywydau mewn perygl os yw’r trais yn parhau.