Mae’r heddlu wedi dweud ei bod yn debygol fod y ddynes gafodd ei darganfod wedi marw mewn afon yn Norfolk wedi cael ei thagu.
Cafodd cyrff y ddynes a’i phartner eu darganfod yn y dŵr ddydd Sul yn ardal Wroxham ar y Norfolk Broads.
Roedd y pâr o Surrey ar eu gwyliau.
Cafodd merch 13 oed y ddynes ei darganfod yn ddiogel ar gwch.
Cafodd yr heddlu eu galw ddydd Sadwrn ar ôl i’r teulu fethu â dychwelyd y cwch i’r iard ar ddiwedd eu gwyliau.
Cafodd y cyrff eu darganfod yn agos i’r cwch ar afon Bure.
Mae heddlu Norfolk a Suffolk wedi dweud eu bod yn trin marwolaeth y ddynes fel un amheus.
Mae archwiliad post-mortem ar y ddynes wedi dangos ei bod wedi marw cyn iddi fynd i’r dŵr.
Mae’r crwner wedi cael gwybod.