Belffast
Cafodd naw o blismyn eu hanafu yn ystod ail noson o drais ar strydoedd Gogledd Belffast neithiwr.

Cafodd tri eu cludo i’r ysbyty yn ystod y trafferthion wrth i derfysgwyr daflu bomiau petrol at yr heddlu yn ardal Carlisle Circus yn y ddinas.

Roedd yr heddlu wedi ceisio rheoli’r dorf drwy chwistrellu dŵr wrth i’r gwrthdaro rhwng teyrngarwyr a gweriniaethwyr  waethygu.