Mae cyn-olygydd News of the World yn yr Alban  wedi cael ei arestio’r bore ma gan Heddlu Ystrad Clud ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Bob Bird yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Glasgow mewn perthynas ag achos y cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd, Tommy Sheridan, yn erbyn y News of the World yn 2006.

Cafodd Tommy Sheridan ei garcharu yn 2011 am ddweud anwiredd mewn llys barn.

Mae Heddlu Ystrad Clud wedi cadarnhau fod dyn 56 oed wedi cael ei arestio ac yn y ddalfa yn Glasgow.